Newyddion Mis Ebrill
Hafan > Newyddion > Newyddion Mis Ebrill
Dosbarth Eigiau
Ar ddiwedd tymor diwethaf cafodd Dosbarth Eigiau ymwelydd arbennig yn y dosbarth am y bore. Fel rhan o’r thema Trên Bach Glas roeddynt wedi cynllunio parti ar gyfer Nel y ci. Roedd y plant a Nel yn ymwddwyn yn arbennig o dda ac roedd y plant yn dangos gofal arbennig iawn tuag ati. Maent wedi bod yn brysur yn plannu yn barod yn ystod eu wythnos gyntaf yn ôl a byddent yn dysgu llawer am dyfu llysiau a planhigion fel rhan o’r thema Supertaten.
Dosbarth Melynllyn
Cynlluniodd plant Melynllyn Helfa Gwnawyn ar gyfer eu gilydd ac yr oeddynt hefyd yn mynd i gael picnic yn y parc fel y gwnaeth yr arth yn stori Beth Nesaf? Llwyddant i gael tywydd sych ar gyfer eu taith ond yn anffodus bu raid iddynt gael eu picnic o dan dô. Cawsant ddiwrnod prysur yn paratoi eu picnic yn dilyn gwaith ymchwilio i brisiau bwyd ar lein, e bostio Mrs Lloyd Owen efo’u rhestrau bwyd ac wedyn helpu y dyn Asda pan gyrhaeddod efo’r bwyd. Y mae hwythau wedi bod yn brysur yn barod ers dychwelyd yn ôl ar ôl gwyliau’r Pasg yn efelychu llun Blodau Haul Van Gogh fel rhan o’u thema Pe bawn i’n forgrugyn.
Dosbarth Dulyn
Ar ddiwedd mis Mawrth cafodd plant Dosbarth Dulyn wahoddiad i Gapel Tal y Bont i fod yn rhan o stori’r Pasg. Diolch i’r Parchedig Owain Davies ac i aelodau o’r capel am drefnu. Yr oedd yn gyfle gwych i’r plant ddysgu’r stori ac i fod yn rhan o’r gweithgareddau. Fel pob dosbarth arall hefyd y maent wedi bod yn plannu hadau blodau gwyllt, a bydd yr holl flodau yn cael eu plannu ar gaeau chwarae Tal y Bont ar Fai 8fed. Bydd gwahoddiad i’r plant a’u teuluoedd i fod yn rhan o’r gwaith plannu.
Dosbarth Geirionydd
Llongyfarchiadau mawr i dîm Cwis Dim Clem Tatws y Gogledd am ddod yn 3ydd drwy Sir Gonwy hefyd! Cafodd plant Dosbarth Geirionydd gyfle I fod yn rhan o weithdy am yr Ail Ryfel Byd. Y maent wedi bod yn dillyn llyfr Dihangfa Fawr Taid ac wedi dysgu llawer am y cyfnod. Roedd gweld yr holl artiffactau a chlywed hanes y cyfnod yn ystod y gweithdy yn gyfle ardderchog iddynt ddysgu mwy. Cawsant gyfle hefyd i ymchwilio i bwyd o’r cyfnod a chafodd pob grŵp yn y dosbarth gyfle i goginio rysiat o’r cyfnod a chymharu efo bwyd heddiw.
Ar ddiwrnod ola’r tymor cafodd pob dosbarth gyfle i gwblhau Helfa Wŷ Pasg a llwyddod pawb i fynd adref efo wŷ siocled. Yr ydym hefyd wedi derbyn ein Bws Mini yn ôl ac edrychwn ymlaen at gael cyfle i’w ddefnddio i gludo plant i ymweliadau lleol unwaith mae y staff wedi cwblhau y prawf gyrru.