Polisi Preifatrwydd
Hafan > Polisi Preifatrwydd
Yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (General Data Protection Regulations) (GDPR) a ddaw i rym ar 25 Mai 2018, mae’r hysbysiad hwn yn nodi beth mae Gwasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol ac Ysgol Dyffryn yr Enfys yn ei wneud gyda gwybodaeth bersonol a pherfformiad plant a phobl ifanc, ac unrhyw wybodaeth bersonol sy’n ymwneud â chi fel rhiant / gwarcheidwad.
Bydd yr wybodaeth yn yr hysbysiad hwn yn cael ei adolygu er mwyn cynnwys unrhyw newidiadau pellach a ddarparwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
1. Casglu data personol
Mae’r ysgol yn casglu gwybodaeth am blant, pobl ifanc a’u rhieni neu’r gwarcheidwaid cyfreithiol pan fônt yn mynd i ysgol newydd, maent hefyd yn casglu gwybodaeth ar amseroedd eraill o’r flwyddyn ysgol. Derbynnir gwybodaeth gan ysgolion eraill pan fo disgyblion yn trosglwyddo. Bydd yr Awdurdod Lleol yn cael gwybodaeth am blant/pobl ifanc o’r ysgol / y sefydliad addysgol.
Bydd yr ysgol a’r Awdurdod Lleol yn dod yn rheolwr y data ar ôl cael yr wybodaeth.
Mae gennym gamerâu cylch cyfyng (CCC) mewn lleoliadau allweddol er budd diogelwch ac er mwyn atal a chanfod trosedd. Mae arwyddion amlwg sy’n eich hysbysu bod CCC yn cael ei ddefnyddio ac yn darparu gwybodaeth ynghylch pwy i gysylltu ag ef ynghylch gwybodaeth bellach amdo.
Nid ydym ond yn datgelu delweddau i drydydd plaid er mwyn diogelwch cyhoeddus ac atal a darganfod trosedd.
2. Pa wybodaeth sy’n cael ei gadw?
Mae gwybodaeth bersonol a chategori arbennig sy’n cael ei gasglu’n cynnwys:
- enw
- cyfeiriad
- dyddiad geni
- rhyw
- grŵp ethnig
- statws anabledd
- gwybodaeth iechyd arall
- gwybodaeth anghenion dysgu ychwanegol
- canlyniadau profion ac arholiadau cenedlaethol
- presenoldeb
- gwybodaeth ynghylch eich addysg yn yr ysgol
- delweddau bysbrint a thempledi ar gyfer cofrestru biometrig
3. Beth sy’n digwydd i’ch gwybodaeth?
Mae’r wybodaeth a gasglwyd yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu plant a phobl ifanc a sicrhaubod manylion cysylltu priodol ar gael er mwyn cysylltu â rhieni / gwarcheidwaid.
Mae’r ysgol a’r Awdurdod Lleol hefyd yn defnyddio’r wybodaeth mae’n ei gasglu ar gyfer gwneud ymchwil. Mae’n defnyddio canlyniad yr ymchwil i wneud penderfyniadau ar bolisi ac ariannu’r ysgol, cyfrifo perfformiad ysgolion a’u helpu i osod targedau.
Mae’r ymchwil hefyd yn cyfarwyddo’r addysg sy’n cael ei ddarparu i blant a phobl ifanc e.e.:
- darparu gwasanaethau addysgol i unigolion;
- monitro a rhoi adroddiad ar gynnydd addysgol plant a phobl ifanc
- darparu gwasanaethau lles, gofal bugeiliol ac iechyd; anghenion AAA a chludiant;
- gwaharddiadau, data presenoldeb a meithrinfa
- rhoi cefnogaeth ac arweiniad i blant, pobl ifanc a’u rhieni a’u gwarcheidwaid
- cyfreithiol
- trefnu gweithgareddau a theithiau addysgol
- cynllunio a rheoli’r ysgol
- cofnodi taliadau ariannol i a gan ddisgyblion/myfyrwyr a rhieni/gwarcheidwaid.
Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomaidd, gan gynnwys proffilio. Mae hyn yn golygu gwneud penderfyniad awtomatig amdanoch heb ymyrraeth ddynol.
4. Â phwy mae eich gwybodaeth yn cael ei rannu?
Mae gwybodaeth ynghylch plant a phobl ifanc fel arfer yn cael ei anfon yn uniongyrchol o ysgolion a’r Awdurdod Lleol at Lywodraeth Cymru fel rhan o gasglu data statudol sy’n cynnwys y canlynol:
- casglu data ôl 16
- Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC)
- Casglu lefelau Disgyblion sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS)
- casglu data cenedlaethol (NDC)
- casglu presenoldeb
- casglu data Profion Cenedlaethol Cymru (WNT)
Gall gwybodaeth sy’n cael ei gadw gan yr ysgol a’r Awdurdod Lleol ar blant a phobl ifanc a’u rhieni neu warcheidwaid cyfreithiol gael ei rannu gyda sefydliadau eraill pan fo’r gyfraith yn caniatáu hyn, e.e., gyda: chyrff addysgol a hyfforddiant eraill, gan gynnwys ysgolion, pan fo disgyblion yn gwneud ceisiadau am gyrsiau, hyfforddiant, trosglwyddo ysgol neu geisio arweiniad ar gyfleoedd
- cyrff sy’n gwneud ymchwil i LlC, yr ALl ac ysgolion, cyn belled bod camau’n cael eu
- cymryd i gadw’r wybodaeth yn ddiogel
- llywodraeth ganolog a lleol ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau addysgol
- gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau iechyd a lles eraill ble mae angen rhannu
- gwybodaeth i amddiffyn a chefnogi plant a phobl ifanc unigol
- amrywiol gyrff rheolaethol, fel yr ombwdsmon, awdurdodau arolygu a mentrau twyll y Llywodraeth, ble mae’r gyfraith yn gofyn i’r wybodaeth honno gael ei anfon ymlaen fel y gallant wneud eu gwaith.
5. Am ba hyd y byddwn yn cadw’r wybodaeth?
Bydd yr ysgol a’r Awdurdod Lleol yn cadw a dinistrio’r wybodaeth yn unol â’u hamserlen dargadwedd, mae’r rhain ar gael trwy’r rhestr cysylltu isod.
6. Eich hawliau o dan GDPR
Mae gennych hawl i:
- weld yr wybodaeth bersonol mae’r ysgol a’r Awdurdod Lleol yn ei brosesu amdanoch
- gofyn i’r ysgolion neu’r Awdurdod Lleol gywiro gwybodaeth sy’n anghywir
- yr hawl (mewn rhai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu ar sail sy’n ymwneud â’ch
- sefyllfa arbennig chi
- yr hawl i gyfyngu prosesu (mewn rhai amgylchiadau)
- cwyno wrth y comisiynydd gwybodaeth sef y rheolwr annibynnol amddiffyn data.
Cysylltwch â’r isod ynghylch yr wybodaeth mae’r ysgol a’r Awdurdod Lleol yn ei gadw a’i ddefnyddio, neu os ydych yn dymuno defnyddio eich hawl o dan GDPR:
Manylion cysylltu’r ysgol:
Karen Lloyd Owen - Pennaeth
01492660216
pennaeth@dyffrynyrenfys.conwy.sch.uk
Cyswllt yr Awdurdod Lleol:
Andrew Nixon – Uwch Swyddog Busnes a MIS
01492 575587
MIS@conwy.gov.uk