Newyddion Mis Tachwedd

Hafan > Newyddion > Newyddion Mis Tachwedd


Roedd hi’n 100 mlynedd ers i Drychineb Argae Dolgarrog ddigwydd ar Dachwedd 2il, 1925. Cawsom wythnos brysur yn yr ysgol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol er mwyn paratoi ar gyfer digwyddiad Cofio Dolgarrog 100.

Bu i Ddosbarth Geirionydd gael cyfle i greu llusernau a gafodd eu defnyddio fel rhan o’r Orymdaith Gofio. Cawsant gyfle hefyd, ynghyd â Dosbarth Dulyn, i ymweld â’r Ganolfan Gymunedol i weld yr arddangosfa am y drychineb ac i ganu cloch yr eglwys — y gloch a ganodd 100 mlynedd yn ôl wrth i’r dŵr ddymchwel yr argae. Cafodd rhai o’r plant gyfle hefyd i beintio blodyn chrysanthemum ar gerrig er cof am y rhai a gollodd eu bywydau yn y trychineb.

I orffen yr wythnos o weithgareddau, daeth y BBC atom i siarad â phlant Dosbarth Geirionydd am yr hyn yr oeddent wedi’i ddysgu, a daeth Ruth Fabby MBE i siarad â’r plant am ei hymchwil i hanesion y rhai a gollwyd.

  • Criw'r BBC gyda dau fyfyriwr yn cael eu cyfweld

Yn ychwanegol i’r gweithgareddau hyn, fe wnaethom ddathlu Dydd Gwener Gwyllt, a chafodd y plant gyfle i ddod i’r ysgol mewn gwisgoedd gwyllt ac i gymryd rhan mewn amryw weithgareddau, gan orffen y dydd gyda disgo. Roedd yn anodd adnabod rhai o’r plant yn eu gwisgoedd!

Cawsom gyfle hefyd i godi arian ar gyfer elusen Plant Mewn Angen. Daeth y plant i’r ysgol yn eu gwisgoedd nos ac roedd modd cyfrannu arian am y cyfle i wylio ffilm yn y prynhawn. Diolch i bawb a gyfrannodd — llwyddwyd i godi £240 tuag at yr elusen.

Mae’r plant wedi bod yn brysur yn eu dosbarthiadau hefyd, yn dysgu ac yn datblygu eu themâu.

  • Mae Dosbarth Crafnant wedi bod yn dysgu am dân gwyllt ac erbyn hyn mae’r Gruffalo wedi cyrraedd y dosbarth!

  • Mae Dosbarth Melynllyn wedi bod yn datblygu eu sgiliau mathemateg cymhwysol drwy bwyso bwyd ar gyfer siop y dosbarth ac yn amcangyfrif sawl fferins sydd mewn bag cyn eu cyfrif.

  • Cafodd Dosbarth Dulyn gyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd Profiadau Cyntaf gan Wasanaeth Cerdd Conwy, lle dysgon nhw sut i ddatblygu sgiliau lleisiol drwy weithgareddau hwyl a diddorol.

I orffen y mis, cawsom Noson Bingo i godi arian i’r Cylch ac i’r ysgol, a braf iawn oedd gweld y gefnogaeth gan deuluoedd ac aelodau’r gymuned.

Bydd mis Rhagfyr yn fis byr ond un hynod brysur yn yr ysgol, gyda llawer iawn o weithgareddau cyffrous ar y gweill. Edrychwn ymlaen at rannu’r newyddion gyda chi cyn cau ar gyfer y Nadolig!


Pob Eitem Newyddion