Newyddion Tachwedd

Hafan > Newyddion > Newyddion Tachwedd


Gwener Gwyllt ๐Ÿ‘ป๐ŸŽƒ

Gwelsom nifer o ddisgyblion  dychrynllyd Ysgol Dyffryn yr Enfys ar Ddydd Gwener Gwyllt! Cafwyd diwrnod hwyliog yn llawn o weithgareddau gwahanol yn y dosbarth, disgo yn y neuadd ac yna bwyd parti! 

  • myfyrwyr wedi gwisgo mewn gwisgoedd brawychus

Plant Mewn Angen ๐Ÿงธ๐Ÿ’ท

Roedd pawb yn edrych yn gynnes yn eu dillad nos ar ddiwrnod Plant Mewn Angen. Diolch yn fawr i bawb am eu cyfraniadau hael tuag at yr elusen  - llwyddom i godi £300!

  • plant yn gwisgo pyjamas ar gyfer plant mewn angen

Sul y Cofio

Aeth Dosbarth Geirionydd a Dosbarth Dulyn draw i'r ardd gofio i gynnal dwy funud o dawelwch ar Dachwedd 11eg am 11 yb, gan ddangos eu parch a meddwl am aberth y rhai a gollwyd yn y rhyfeloedd.

Gwasanaeth Diolchgarwch - ๐ŸŒŸ

Da iawn i bawb a wnaeth gyflwyno neu ganu yn y Gwasanaeth Diolchgarwch cyn hanner tymor – roeddech chi’n wych! Diolch i bawb a wnaeth gyfrannu bwyd i’r banc bwyd hefyd – rydym yn gwerthfawrogi eich haelioni!

  • plant yn canu yn y Gwasanaeth Diolchgarwch

Ymweliad Seneddol

Daeth Anna Brychan , yr AS ar gyfer Addysg a’r Gymraeg i ymweld â’r ysgol. Cafodd gyfle i weld yr ysgol ar waith ac hefyd i drafod efo a holi’r Cyngor Ysgol am sut maent yn cael datblygu eu syniadau a chyfrannu tuag at fywyd ysgol.

Dosbarth Eigiau

Ar ôl hanner tymor eu cymeriad  newydd o Patrôl Pawennau fel rhan o’r thema Arwyr yw Rubble!  Roedd ganddynt ardaloedd dysgu newydd yn y dosbarth hefyd gan gynnwys peiriant cloddio! 

  • Myfyrwyr yn gwneud gweithgaredd gyda phwysau

Dosbarth Melynllyn

Mae’r plant wedi bod yn clywed hanes Y Dyn Eira ac o ganlyniad wedi bod yn ymchwilio i dymheredd a darganfod pa ddyn eira toddodd yn gyntaf ar ôl eu godod mewn safleodd amrywiol o gwmpas yr ysgol.

  • myfyrwyr yn cynnal arbrawf

Wythnos Hydrefol o Weithgareddau ๐Ÿ

Mae Dosbarth Crafnant wedi bod yn brysur iawn yn mwynhau eu thema hydrefol drwy ymchwilio o amrywiaeth o weithgareddau amrywiol yn y dosbarth.

  • lluniau o wythnos o weithgareddau hydrefol

Prosiect Cerfluniau Dosbarth Geirionydd ๐Ÿ—ฟ๐Ÿ—ฝ

Cyn y gwyliau, bu plant Dosbarth Geirionydd yn brysur yn ymchwilio i wahanol gerfluniau ledled Cymru, cyn mynd ati i greu cerflun o’u harwr personol nhw! Gwelwyd gwaith creadigol gwych gan bawb!

  • myfyrwyr gyda'u Prosiect Cerflunio

Pob Eitem Newyddion