Newyddion Chwefror

Hafan > Newyddion > Newyddion Chwefror


Wel dyna ni hanner tymor arall wedi hedfan. Mae pawb yn ysgol Dyffryn yr Enfys yn faslch o weld mis Chwefror ar ol y gwynt, y rhew a’r eira a ddaeth ym mis Ionawr.

Mae plant Dosbarth Eigiau, Crafnant a Melynllyn wedi bod yn dysgu am ddathliadau Blwyddyn Newydd Tsieniaidd. Cafodd y plant gyfle i flasu noodles a trio bwyta nhw efo chopstisks! Heriol iawn iddynt! Yn ogystal cawsant gyfel i dydsgu dawns y Ddraig ac i ddysgu am draddodiadau’r ŵyl.

Fel rhan o’u dysgu am stori ‘Dwi’n mynd i hela arth mae’r plant wedi bod yn dysgu am anifeilaid y fferm. Cawsant brynhawn diddorol yn arsylwi ar wyau cyn ac ar ol iddynt gael eu coginio, dysgu amgywion bach ac wedyn i orffen y prynhawn gwnaethant brechdannau ŵy blasus i’w bwyta.

  • Plant yn gwnued brechdan wy

Y mae plant Dosbarth Crafnant wedi bod tu allan yn yr haul ayn dysgu am golau a chysgodion ac yn ffodus iddynt hwy roedd yn ddiwrnod braf ac yn gyfel da  i ymchwilio golau a thywyllwch. Fel rhan o’u thema Beth nesaf? Y maent  wedi bod yn amcangyfrif pellteroedd rhwng y planedau drwy gyfri camau ar y buarth tu allan.

Y mae Dosbarth Melynllyn wedi bod yn ymarfer eu sgiliau DJ gyda gweithdai wythnosol gan wasanaeth cerdd yr AALL. Byddant yn cael cyfle i berfformio i weddill yr ysgol ac edrychwn ymlaen yn fawr iawn at eu perfformiad. Yn ogtsla maent wedi bod yn dysgu am ddulliau darlunio graffiti ac wedi bod yn creu posteri i arddangos ar y ‘decks’ yn ystod eu perfformiad. Daeth cwmni Xplore Science yma hefyd i gynnal gweithdy ar Golau i Ddsobarth Dulyna Melynllyn a cafodd y plant gyfleodd gwych i ddysgu am sut mae golau yn gweithio am liwiau’r sbectrwm. Bydd Dosbarth Melynllyn hefyd yncreu Twnel helyg ar gae’r ysgol ac edrychwn ymlaen at ei weld yn blaguro yn y Gwanwyn.

  • Plant yn ymarfer ei sgiliau Dj
  • Plentyn yn gafael mewn torch

Y mae Dosbarth Dulyn a Geirionydd wedi bod yn yn astudio llyfr Dihangfa Fawr Taid ac o ganlyniad wedi bod yn ymchwilio i pa ddefnydd fyddai orau ar gyfer helpu taid i neidio allan o’r awyren. Roedd yn brynhawn diddorol iawn yn gwylio’r nifer o wyau (heb eu coginio!) yn disgyn efo parasiwt o’r ffenestri! Ni lwyddodd i pob ŵy aros yn gyflawn.

Cynhaliwyd diwrnod arbennig i ddathlu Dydd Miwsig Cymru a chafodd pawb gyfle i wrando ac i werhuso cerddoriaeth Cymraeg. Bu i rai o’r plant wrando ar gerddoriaeth gwerin a dysgu dawnsio gwerin ac mae gennym rapwyr arbennig ym Ml 5/6. Cyfansoddodd rhai o’r bechgyn rap arbennig am Gymru – gwych hogiau! I orffen y dydd cawsom ddisgo wedi ei arwain gan ein DJ’s ‘ Y Criw Cymraeg’.

Y mae Bl 5 wedi bod yn cwblhau eu hyfforddiant beicio ac roedd canmoliaeth mawr amdanynt. Pob un yn grwndo’n dda ac wedi llwyddo. Y mae Dosbarth Geirionydd hefyd wedi cael hanner tymor brysur iawn ac wedi bod yn plannu dros 100 o goed ar y cae fel rhan o’n gardd newydd. Cawsant weithdy diddorol iawn hefyd gan Xplore Science yn dysgu ambwysigrwydd gososd sylfaen dda mewn gwyddoniaeth ac mewn bywyd. Cafodd plant Bl6 gyfle i fod yn rhan o weithdy ‘’Paid a dwyn fy nyfodol’. Cyfle i wrando a trafod materion sensitif a gall effeithio’r plant wrth iddynt dyfu. Unwaith eto roed canmoliaeth mawr am eu ymddygiad.

I orffen ei hanner tymor mae Y Cyngor Ysgol wedi trefnu diwrnod di -wisg ysgol er mwyn codi arian ar gyfer prynu pysgod a tanc ar gyfer yr ysgol. Roedd y plant wedi gofyn am anifail anwes yn ei holiadur blynyddol. Edrychwn ymlaen at fynd i brynu’r pysgod a’r offer ar ôl hanner tymor.


Pob Eitem Newyddion