Newyddion Ebrill
Hafan > Newyddion > Newyddion Ebrill
Hafan i hwyl, dysgu, a llawer o greadigrwydd y mis hwn!
Cerddoriaeth a Chymuned
Cafodd Dosbarth Dulyn fore llawn hwyl cyn gwyliau’r Pasg yn dysgu sut i chwarae’r Glockenspiel. Ymdrech wych gan bawb a chanolbwyntio anhygoel!
Hefyd, cafodd Dosbarth Melynnlyn orig bach braf yng nghwmni Clwb yr Henoed. Diolch iddynt am y gwahoddiad, y croeso, a’r fferins! Da iawn i’r plant am ganu a chwarae hwiangerddi mor dda.
Her y Peirianwyr Ifanc
Cafodd y plant Dosbarth Geirionydd her gan Mr Jones i greu model o’r Empire State Building gan ddefnyddio spaghetti, malws melys, tâp, blue tack a phapur. Roedd rhaid i’r tŵr fod yn gadarn, yn dal, ac yn sefyll ar ei ben ei hun!
Ffair y Pasg a Diolchiadau
Diolch o galon i Ffrindiau’r Ysgol am drefnu ein Ffair Pasg. Llwyddom i godi £430 tuag at Gronfa’r Ysgol! Diolch i’r teuluoedd am eich cefnogaeth ac i’r staff a helpodd.
Diolch hefyd i’r Parchedig Owain Davies am wahodd Dosbarth Dulyn i Gapel Tal-y-Bont i ddysgu am stori’r Pasg. Da iawn i’r plant am eu hymddygiad gwych.
Gwyddoniaeth a Dysgu y Gwanwyn
Ar ôl canu 'Dacw Mam yn Dwad' bu i Ddosbarth Melynllyn ddatblygu eu sgiliau gwyddonol drwy ymchwilio i pa fag sy'n dal dŵr? Aethant ati I ddarganfod dim ond y bag plastig sydd yn dal dŵr!
Bu i Ddosbarth Crafnant ddatblygu eu dysgu am y Gwanwyn drwy amrywiaeth o weithgareddau tu mewn a thu allan i’r dosbarth gan gynnwys sgetsio blodau a gwrthrychau’r gwanwyn, peintio ac arsylwi a chreu tê hud ar gyfer Y Gwanwyn oedd yn cynnwys cynhwysion Y Gwanwyn a lliwiau hyfryd.
Storiau Traddodiadol
Thema Tymor yr Haf Dosbarth Melynllyn yw Straeon Traddodiadol, gan gychwyn gyda stori Yr Hugan Fach Goch. Mae'r plant wedi bod yn mwynhau bod yn greadigol trwy ddylunio cardiau 'Brysia Wella' i Nain ac ymarfer eu sgiliau ysgrifennu trwy lunio rhestr siopa ar gyfer eu picnic.
Mae Dosbarth Crafnant hefyd wedi bod yn gwrando ar stori draddodiadol - Y Tri Mochyn Bach ac mae nhw eisoes wedi bod yn datblygu eu dysgu mewn amrywiaeth o feysydd trwy brofiadau ymarferol. Maen nhw'n gallu ail-adrodd y stori yn y Gymraeg gyda symudiadau a phropiau ac mae nhw hyd yn oed wedi rhoi'r stori mewn trefn trwy raglennu'r Bee Bot!
Diogelwch Tân
Cawsom ymweliad diddorol dros ben gan Gwawr o’r Gwasanaeth Tân. Da iawn i’r holl blant am wrando mor astud ar y cyflwyniad ac am holi cwestiynau deallus iawn am ddiogelwch.
Prosiect Cylchgrawn
Cafodd Ioan, Alex, Lleucu a Lucie o Ddosbarth Geirionydd gyfle gwych i ymweld ag Ysgol Bro Gwydir yn ddiweddar. Buont yn cydweithio gyda disgyblion eraill o’r ardal i greu cylchgrawn ar y thema "Cymru a Llanrwst". Roeddent yn llysgenhadon gwych dros yr ysgol, ac edrychwn ymlaen at weld y copi terfynol!
Yn yr Ardd - Dosbarth Geirionydd
Mae ein sesiynau garddio gyda Sue ac Anna wedi cychwyn yn llwyddiannus! Mae’r plant wedi bod yn archwilio’r cae i ddarganfod creaduriaid bychain, yn ogystal â helpu i dacluso a chwynnu’r ardd wyllt. Ein prosiect nesaf yw adeiladu gwestai trychfilod gan ddefnyddio deunyddiau naturiol a photeli plastig wedi’u hailgylchu.










