Newyddion Gorffennaf

Hafan > Newyddion > Newyddion Gorffennaf


Wrth i ni gyrraedd diwedd blwyddyn ysgol wych, rydym am edrych yn ôl ar fis Gorffennaf prysur, egnïol a heulog dros ben. Rydym mor falch o’n holl ddisgyblion am eu gwaith caled, eu moesau gwych, a’u hymddygiad rhagorol ar ein holl deithiau diweddar. Dyma grynhoad o’r hyn rydym wedi bod yn ei wneud!

🎢 Hwyl a Sbri yn Zip World ac Ymwelwyr ym Metws-y-Coed

Cafodd disgyblion Blynyddoedd 3 i 6 fwynhad dros ben yn Zip World! Cawsant ddiwrnod llawn egni i fyny ar y rhwydi anferth ac yn rasio i lawr y coaster yn y goedwig. Dangosodd pawb ddewrder mawr, a chafodd y plant canmoliaeth am eu hymddygiad gwych drwy gydol y diwrnod. Da iawn bawb!

Cawsant hefyd amser gwych ym Metws y Coed a chyfle i brynu hufen iâ a chael bod yn ymwelwyr ym Metws-y-Coed am y diwrnod. Mwynhaodd pawb y danteithion oer o dan yr haul braf, gan ddangos ymddygiad ardderchog.

  • Myfyriwr yn mynd ar y rholer-coaster yn y goedwig

Hwyl yn y Sŵ

Cafodd Dosbarth Melynllyn ddiwrnod gwych i ffwrdd yn y sŵ yn dysgu am yr holl anifeiliaid ac yn cael amser llawn hwyl yn yr ardal chwarae ar ddiwedd y dydd.

⚡️ Dysgu am Ynni Gwyrdd yng Ngorsaf Bŵer Hydro RWE

Cafodd  Dosbarth Geirionydd a Dulyn gyfle i gwblhau taith addysgol o amgylch rhan o Orsaf Bŵer Hydro leol RWE. Dysgodd y plant lawer am ddiogelwch ar y safle, sut mae peiriannau'r ffatri yn gweithio, a sut mae llif naturiol y dŵr yn cael ei droi’n drydan. Diolch yn fawr i Rob am fod yn arweinydd mor addysgol a llawn gwybodaeth!

  • Grŵp o fyfyrwyr mewn dillad gweladwyedd uchel y tu allan i orsaf bŵer.

🪴 Sesiwn Garddio Olaf yr Haf

Yn ystod sesiwn garddio olaf Geirionydd, cwblhaodd ein  cadwraethwyr ifanc amrywiaeth o weithgareddau natur difyr. Buont yn edrych ar wyfynod lleol, yn helpu i osod twneli cadwraeth ar gyfer llygod ac yn plannu coed derw ar gyfer y dyfodol. Diolch o galon i Sue am drefnu gweithgareddau mor dda i ni dros yr wythnosau diwethaf!

  • Myfyrwyr yn paentio darn o bren yn y goedwig.

☀️ Diwrnod Perffaith ym Manorafon Farm Park

Am ffordd berffaith i orffen y flwyddyn ysgol! Mwynhaodd Dosbarth Crafnant ddiwrnod hyfryd ym Manorafon. Roedd y tywydd yn braf iawn, ac roedd y plant yn glod mawr i'r ysgol. Rydym yn falch dros ben ohonynt i gyd!

  • Grŵp o fyfyrwyr yn sefyll o flaen car

🏉 Cydweithio Gwych yng Ngŵyl Rygbi Cyffwrdd Dyffryn Conwy

Rhoddodd rhai o ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6 100% o ymdrech yng Ngŵyl Hwyl Rygbi Dyffryn Conwy. Roedd yn braf iawn gweld cydweithio gwych, penderfyniad, a thîm-waith rhagorol ar y cae. Gwaith gwych, dîm!

  • tim Rygbi Cyffwrdd Dyffryn Conwy

📚 Sialens Ddarllen yr Haf – Pwy sy'n Gêm?

Daeth Eirian o Lyfrgell Llandudno draw i rannu gwybodaeth am Sialens Ddarllen yr Haf eleni. Mae taflenni yn esbonio’r her wedi’u hanfon adref. Pwy sy'n gêm? Mae hwn yn gyfle perffaith i gadw sgiliau darllen yn loyw dros y gwyliau.

🥵 Cadw'n Cŵl yn y Tywydd Chwilboeth

Gwnaeth Dosbarth Crafnant eu gorau glas i gadw'n cŵl yn ystod y tywydd chwilboeth diweddar. Yn anffodus, oherwydd y tywydd poeth iawn, bu'n rhaid canslo'r Mabolgampau traddodiadol, ond ni rannom adael i hynny ddifetha'r hwyl. Yn hytrach, cawsom loli iâ i bawb i gadw pawb yn ffres!

Llwyddom i fynd allan i'r cae i rannu rhai doniau chwaraeon gyda'n gilydd yr wythnos ganlynol. Er ein bod wedi methu cwmni plant Blwyddyn 6, oedd draw yn eu hysgolion uwchradd newydd, gwnaeth rhai o ddisgyblion Blwyddyn 5 waith anhygoel yn cefnogi'r plant iau ac yn helpu Mrs Lloyd Owen efo'r offer. Diolch yn fawr i Blwyddyn 5!

Wythnos olaf yn llawn hwyl

Yn ystod yr wythnos olaf cawsom llawer iawn o hwyl i orffen y flwyddyn. Cafofdd plant Dosbarth Geirionydd gornset dŵr ar y cae ac roeddynt wrth eu boddau yn gwlychu eu gilydd a’r staff. Roedd hi hefyd yn gyfle i ffarwelio efo Bl6, a chafwyd gwasnaeth ffarwelio arbenning ganddynt cyn iddynt gael  cyfle i wylio ffilm yn y sinema a mwynhau danteithion efo’u gilydd. Cynhaliwyd sioe dalentau hefyd, a braf oedd gweld y plant yn rhannu eu doniau – mae gennym blant talentog iawn yn yr ysgol . gwelwyd dawnswyr, perfformwyr gymnasteg, cantorion, hyfforddwyr cŵn a gwaith creadigol arbennig. I orffen y flwyddyn a’r tymor cynhalwyd sesiwn hwyl ar y cae ac roedd plant Bl 6 yn arwain amrywiaeth o weithgareddau a gemau. Daeth rhieni i mewn i beintio wynebau ac i orffen y dydd cafodd y plant barti. Diolch yn fawr i Gyngor Cymuned Trefriw am eu rhodd hael o £200  tuag at ein bwyd parti eleni.

Ar ein diwrnod olaf daeth Rob o RWE i rannu gwobrwyau efo plant Dosbarth Dulyn a Geirionydd fel rhan o’r gystadleuaeth Dylunio Logo. Da iawn blantos am eich gwaith ac i Benji ac i Phoebe am ennill gystadlaeuaeth. Cawsom hefyd gyfle arall i ffrawelio efo bl6 ar ddwiedd y dydd gan ddymuno’n dda iddynt yn eu hysgolion uwchradd ym mis Medi.

Dyna ddiwedd ar dymor a blwyddyn prysur a byrlymus iawn efo pawb yn barod at seibiant haeddiannol dros yr haf…. cyn ail ddechrau arni unwaith eto ym mis Medi!


Pob Eitem Newyddion