Newyddion Hydref

Hafan > Newyddion > Newyddion Hydref


Mae hi bron yn ddiwedd hanner tymor arall ac mae’r amser wedi hedfan! Mae pawb wedi bod yn brysur iawn unwaith eto yn Ysgol Dyffryn yr Enfys.

Dosbarth Eigiau
Braf yw gweld ein plant bach meithrin wedi ymgartrefu mor dda ac yn hapus yn ei dosbarth newydd. Maent wedi bod yn brysur y  ymchwilio’u amgylchedd o gwmpas yr ysgol drwy ddod o hyd i wrthrychau magnetig a rhai sydd ddim.Y maent hefyd wedi bod yn dysgu am deinasoriaid ac wedi bod yn cwblhau amrywiaeth o dasgau diddorol gan gynnwys creu patrymau a datblygu eu sgiliau mân, creu deinasororiaid allan o sipaiau 2D a datblygu eu dychymyg yn yr ardal byd bach. Yn dilyn hynny maent wedi bod yn ymwchilio i’r Hydref ac wedi bod allan yn chwilio am ddail sydd wedi disgyn ac enwi yr holl liwiau a welsant o’u cwmpas.

  • Plant yn creu deinasoriaid allano siapiau 2d
  • Plant yn dysgu amdan tymor yr Hydref

Dosbarth Crafnant
Mae Dosbarth Crafnant wedi bod yn cael amrywiaeth o brofiadau Dysgu Tu Allan gyda Alys sydd wedi bod yn arwain sesiynau Ysgol Goedwig wythnosol efo’r plant. Maent wedi bod yn peintio efo mwd ac yn adeiladu cartrefi i anifeiliaid y goedwig.Yn ogystal a hynny mae’r plant wedi bod yn brsyur iawn yn dysgu pethau newydd yn y dosbarth. Maent wedi bod yn dysgu am rifau 2 ddigid, yn creu patrymau efo adnoddau naturiol, wedi bod yn edrych ar waith Jackson Pollock ac yn didoli a paru gwrthrychau drwy chwarae.

Dosbarth Melynllyn
Cafodd y plant gyfle i fynd yn ôl mewn amser i’r Oes Fictorianaidd am y bore pan gawsant fod yn rhan o gyflwyniad Archifdy Conwy. Cawsant gyfle i wisgo i fyny fel plant o’r oes a dysgu llawer am sut oedd ysgol yn ystod y cyfnod. ‘Dwi’n siwr eu bod yn falch eu bod yn byw yn yr oes yma ar ôl blas o Oes Fictoria! Y maent wedi bod yn brysur hefyd yn cynllunio ymweliad i Lanrwst i ddysgu dipyn bach am y dref ac i ddysgu am Llywelyn ein Llyw olaf.

  • Dosbarth Melyn yn gwysgol dillad or amser fictorianaidd

Dosbarth Dulyn a Geirionydd
Cafodd Bl6 gyfle i dreulio diwrnod blasu yn Ysgol Dyffryn Conwy.Cawsant gyfle i ddod i adnabod rhai o’r plant o ysgolion eraill yn y dalgylch a chyfle i weld ychydig o’r ysgol i ddechrau eu paratoi at mis Medi 2025. Tra roedd Bl6 yn Ysgol Dyffryn Conwy aeth plant Bl5 allan ar gae’r ysgol i gasglu afalau. Yn dilyn hynny cawsant gyfle i bwyso a didoli’r afalu cyn eu rhoi i’r gogyddes i baratoi crymbl afal blasus! Cawsom wasanaeth arbennig o dda gan Dosbarth Geironydd yn cyflwyno enwogion Cymru i’r ysgol. Braf oedd gweld y plant yn hyderus yn siarad o flaen yr ysgol yn eu Cymraeg gorau. Mae y plant yn Nosabrth Dulyn a Geirionydd hefyd wedi bod yn brysur yn dysgu am Gymru. Maent wedi bod yn ymchwilio i ffeithiau am Gaerdydd, wedi bod yn datblygu eu gwyboaeth am cylchedau trydan drwy greu torchau ar gyfer mynd ar daith gerdded yn Eryri ac wedi bod yn datblugu eu sgiliau creadigol drwy berfformio Hen Wlad fy Nhadau mewn gwahanol ffyrdd. Daeth aleodau o Caru Dolgarrog hefyd i arwain sesiwn creu llusernau efo Bl 5/6 ar gyfer taith gerdded drwy’r pentref ar Dachwedd yr 2il i gofio am rhai a gollasant eu bywyd yn Nhrychineb Argae Dolgarrog.
I orffen yr hanner tymor cynhaliwyd Gwasanaeth Diolchgarwch yng Nghapel Tal y Bont a braf oedd cael cyfle i weld y plant yn diolch drwy ganu ac adrodd. Nyddwn hefyd yn cynnal Ffair nadolig yn yr ysgol ar Dachwedd 21ain rhwng 5pm-7pm ac mae croeso cynnwes i bawb ymuno efo ni ar y noson.


Pob Eitem Newyddion