Newyddion Ionawr

Hafan > Newyddion > Newyddion Ionawr


Blwyddyn newydd wedi cyrraedd a gyda hynny tywydd mawr – eira, stormydd ac ar ben hynny dim dŵr! Er hynny mae pawb wedi bod yn brysur dros ben yn yr ysgol. Yr ydym yn anelu at ennill  wobr aur y Siarter Iaith Gymraeg eleni. Mae ein criw Cymraeg wedi trefnu gweithgareddau er mwyn hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn yr ysgol ac yn y gymuned – felly os ydych o gwmpas ac yn gweld ein disgyblion byddwn yn gwerthfawrogi’n fawr os byddwch yn siarad yn Gymraeg efo nhw.

Yr ydym wedi llwyddo hefyd i dderbyn grant ar gyfer datblyu gardd ar dir yr ysgol. Yn ystod yr wythnosau i ddod bydd y plant yn plannu coed, yn creu twnel helyg ac mae cynrychiolwyr o Cadwch Gymru’n Daclus wrthi yn brysur hefyd yn creu pwll dwr ac wedi gosod tyweich blodau gwyllt ac bydd gan pob dosbarth plannwr eu hunain ar gyfer tyfu llysiau yn y Gwanwyn.

  • Plentyn yn mwynhau reidio beic yn ardd yr ysgol
  • Plant yn chwarae yn ardd yr ysgol

Y mae Paul Braithwate o Llandudno FC wedi bod yn cynnal sesiynau peldroed wythnosol efo Bl 5/6 ac yr ydym yn gobeithio y byddent yn cael cyfle i wisgo eu cit chwaraeon newydd mewn cystadaleathau yn y dyfodol agos.

  • Crys chwaraeon newydd Ysgol Dyffryn yr Enfys - Du a Melyn

Daeth yr eira i Ddolgarrog a cafodd y plant gyfle i’w fwynhau efo’r ffrindiau. Yr oedd yn oer iawn ond yn llawer iawn o hwyl!

  • Plentyn yn mwynhau chwarae yn y eira
  • Plant yn mwynhau chwarae yn y eira

Y mae plant Dosbarth Eigiau wedi bod yn gwrando ar stori ‘Dwi’n mynd i hela arth’ ac wedi bod yn archwilio mwd! Maent wedi bod yn ailadrodd y stori drwy mynd ar daith hela dychmygol eu hunain, ffufio llythrennau yn y mwd, creu cacen fwd, golchi anifeiliad mwdlyd y fferm yn eu cafn dŵr, yn cyfri anifeiliaid ac yn ailadrodd y stori yn eu sioe bypedau. Edrychwn ymlaen at wedl lle mae eu dysgu yn mynd nesaf!

Y mae Dosbarth Crafnant wedi bod yn gwrando ar stori Beth Nesaf? Mae tedi yn mynd i’r gofod ac yn cael picnic ar y lleuad. Y mae’r plant wedi bod yn llawn o syniadau a gyfer eu dysgu  ac wedi bod yn pwyso a mseur cerrig lleuad, yn ail adrodd y stori yn yr ardal byd bach ac yn defnyddio Google Earth i weld sut mae y ddaear yn edrych o’r gofod.

  • Plant yn pwyso a mseur cerrig lleuad

Mae Dosbarth Melynllyn wedi bod yn ymarfer eu sgiliau DJ yn wythnosol efo gweithdy wedi ei arwain gan Gwasanaeth Cerdd Conwy. Byddwn yn edrych ymlaen at cael eu gweld yn perfformio yn fuan. Eu thema nhw y tymor yma yw Pwy wnaeth y sêr uwchben? Maent yn awyddud iawn i ddysgu am cysawd yr haul, y lleuad a’r amrywiol cytserau.

  • Plant yn ymarfer ei sgiliau DJ

Y mae Dosbarth Geirionydd a Dosbarth Dulyn yn darllen llyfr David Walliams ‘ Dihangfa Mawr Taid’ sydd yn ffocysu ar stori Taid a’i hanes yn yr ail ryfel byd. Mae y llyfr hefyd yn ffocysu ar dementia a’r effaith mae o yn gael ar Taid a’i deulu. Mae y plant wedi bod yn gwrando ar gerddoriaeth o’r 40au, yr 80au a nawr, yn ymchwilio i sut mae awyren papur yn gallu hedfan ac yn dysgu am Tony Ross a’i arlunwaith. Bydd llawer o weithgareddau diddorol yn dilyn yn yr wythnosau nesaf.


Pob Eitem Newyddion