Newyddion Ionawr
Hafan > Newyddion > Newyddion Ionawr
Er ei bod yn fis byr yn yr ysgol, mae hi wedi bod yn gyfnod prysur iawn. Ar ein diwrnod cyntaf yn ôl ar ôl y Nadolig, daeth yr eira i’n croesawu a chafodd y plant i gyd gyfle i fynd allan i gael hwyl yn yr eira gyda’u ffrindiau.
Rydym wedi ailgychwyn Clwb yr Urdd ar ôl ysgol, a daeth Elsa o Urdd Conwy at y plant i greu bathodynnau. Mae’r plant sydd wedi bod yn mynychu Clwb CIC Mawr hefyd wedi bod yn cael llawer o hwyl yn chwarae gemau gyda Miss Griffiths a’r Parchedig Owain Davies. Mae’n braf gweld y plant yn mwynhau gweithgareddau ar y cyd y tu allan i oriau ysgol.
Braf oedd croesawu plant newydd i’r Ganolfan Iaith a gweld y plant yn dathlu eu hymdrechion i siarad Cymraeg ar y cyd gyda phlant Ysgol Dyffryn yr Enfys ar fore Gwener. Mae Caffi’r Ganolfan wedi bod yn paratoi tôst a llaeth blasus iawn ar eu cyfer!
Mae pob dosbarth wedi dechrau datblygu themâu newydd ar gyfer y tymor hwn ac eisoes wedi bod yn derbyn amrywiaeth o brofiadau.
Dosbarth Crafnant
Thema’r dosbarth yw hwiangerddi, ac mae’r plant wedi dewis ‘Fuoch chi erioed ym morio’ i ddechrau. Maent wedi bod yn dysgu am wrthrychau sy’n arnofio ac yn suddo, ac wedi mynd am dro o gwmpas eu cynefin i drafod beth sy’n arbennig amdano. Rydym yn edrych ymlaen at eu gweld yn perfformio’r hwiangerdd ar ôl iddynt benderfynu beth sy’n gwneud perfformiad da a sut y byddant yn gwneud hynny eu hunain. Mae’r plant hefyd wedi bod yn dysgu y tu allan drwy fwydo’r adar ac yn dysgu rheolau diogelwch dŵr.
Dosbarth Melynllyn
Mae Blwyddyn 1 a 2 hefyd yn datblygu hwiangerddi fel rhan o’u thema, gan ddechrau gyda ‘Mi welais Jac y Do’. Mae hyn yn digwydd ar adeg berffaith i’r adar bach o gwmpas yr ysgol, gan fod y plant wedi bod yn brysur yn creu bwyd i’r adar ac yn ei osod yn ofalus o gwmpas tir yr ysgol. Cawsant hefyd gyfle i fynd am dro o gwmpas yr ardal leol a defnyddio’u synhwyrau’n ofalus i ddysgu am y byd o’u cwmpas.
Dosbarth Dulyn
Mae’r plant wedi bod yn creu addunedau Blwyddyn Newydd ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn sydd o’u blaenau. Yn ogystal, maent wedi dechrau gwersi nofio ac yn mwynhau bod yn y pwll, gyda phob un ohonynt yn datblygu mewn hyder. Maent hefyd wedi dechrau datblygu thema wedi’i seilio ar y llyfr James a’r Eirinen Anferth, gan ddarganfod o ble y teithiodd yr eirinen ar draws y môr a ble y cyrhaeddodd. Maent wedi bod yn ymchwilio i leoliadau cyfandiroedd ledled y byd ac yn dysgu am y moroedd mawr.
Dosbarth Geirionydd
Mae plant Blwyddyn 5 wedi bod yn derbyn hyfforddiant mewn sesiynau beicio gan FFIT Conwy, ac mae’n braf clywed eu bod i gyd wedi gwrando’n ofalus ac yn barod i fynd ar y ffordd fawr. Cafodd y plant gyfle hefyd i gymryd rhan yng Nghwis Dim Clem, gan ddod yn bumed ar draws Sir Conwy, gyda thîm y ‘Criw Cymraeg’ yn dod yn gyntaf yn y dosbarth – da iawn nhw!
Cawsant gyfle hefyd i gael sgwrs gyda Jasmine o Gyngor Cymuned Trefriw, sydd wedi gofyn i’r plant ddatblygu syniadau er mwyn gwella Mynwent Trefriw. Bydd y dyluniad gorau’n cael ei ddewis ym mis Mawrth, ac edrychwn ymlaen at weld syniadau’r plant yn dod yn fyw. Yn ogystal â hyn, mae’r plant wedi bod yn datblygu eu sgiliau gwyddoniaeth, data, mesur a digidol drwy arbrofi gydag amrywiaeth o ddefnyddiau i weld pa un yw’r gorau i helpu’r eirinen fawr i lanio yn y môr oddi ar lethr serth. Llawer iawn o waith cydweithio a chymharu – da iawn, blantos!





