Newyddion Mai

Hafan > Newyddion > Newyddion Mai


Mae hi wedi bod yn amser prysur a chyffrous yn yr ysgol yn ddiweddar! O ddewiniaid mathemateg i gyfansoddwyr cerddorol, dyma gip olwg ar beth mae ein disgyblion wedi bod yn ei wneud!

Edrych yn Smart

Mae disgyblion Bl6 yn  edrych yn arbennig  o smart yn eu hwdis ffarwel a roddwyd iddynt gan yr ysgol. Gan bod y tywydd wedi troi mor oer agwlyb, yr ydym yn siŵr y byddant yn cael digon o ddefnydd ohonyn nhw cyn diwedd y tymor! 

  • Plant blwyddyn 6 Ysgol Dyffryn yr Enfys yn gwisgo hwdis ffarwel

Picnic a Diogelwch – Dosbarth Melynllyn

Mae Dosbarth Melynllyn wedi bod yn brysur iawn yn datblygu eu dysgu drwy Straeon Traddodiadol.

  • Hwyl y Picnic: Maent wedi bod yn defnyddio geiriaduron i ysgrifennu rhestrau siopa ar gyfer picnic Nain a’r Hugan Fach Goch. Maent hefyd wedi bod yn ymarfer eu sgiliau arian drwy ddod o hyd i gwahanol ffyrdd o dalu am nwyddau’r picnic gan ddefnyddio darnau arian cywir!
  • Cadw’n Ddiogel: Mae Blwyddyn 1 hefyd  wedi derbyn cyfleodd gwych  gan Helen o Kerbcraft yn dysgu sut i gadw'n ddiogel a chroesi'r ffordd yn gywir. Diolch, Helen!

 

  • Plant yn ymarfer cyfrif arian yn y dosbarth
  • Plant Dosbarth Melynllyn yn dysgu sut i croesi ffordd

Hwyl y Tri Mochyn Bach yn Nosbarth Crafnant!

Fel rhan o’u gwaith dysgu, mae plant Dosbarth Crafnant wedi bod yn ail-fyw hanes y Tri Mochyn Bach. Cafodd y plant llawer o hwyl yn adeiladu tai bach eu hunain gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddeunyddiau. Yna, daeth y her fawr – dysgu a fyddai’r tai yn gwrthsefyll hwff o  wynt y Blaidd Mawr Drwg! (sychwr gwallt Mrs Parry!)

Yn ogystal â datblygu eu sgiliau adeiladu a dylunio, mae'r dasg yma wedi bod yn ffordd gwych o ymestyn geirfa Cymraeg y plant. Maent wedi bod yn ymarfer geiriau  i ddisgrifio eu dyluniadau a nodweddion y deunyddiau. 

  • Casgliad o luniau o plant yn adeiladu tai

Anturiaethau Garddio - Dosbarth Geirionydd

Yn eu sesiynau garddio wythnosol  croesawodd Dosbarth Geirionydd ymwelwyr arbennig! Daeth Oli, Tomos a Sue o draw i gyflwyno gwybodaeth am "rywogaethau estron" drwy gemau hwyl a helfa natur ar y cae. Cafodd pawb amser wrth eu boddau yn cydweithio a dysgu yn yr awyr agored!

  • Plant yn dosbarth Geirionydd yn dysgu amdan rywogaethau estron

Sêr Mathemateg - Dosbarth Geirionydd

"Da iawn" enfawr i Adrian, Lleucu, Stanley ac Ela! Gwnaethant gwaith gwych yn cynrychioli’r ysgol yn Ysgol Bro Gwydir efo plant o ysgolion y dalgyclh, gan gwblhau heriau mathemateg a chwis.

  • Dau plentyn o Dosbarth Geirionydd yn sefyll drws nesaf i cwestiwn mathemateg

Crwydro’r Byd Cerddoriaeth - Dosbarth Geirionydd and Dulyn

Mae’r plant wedi bod yn ymchwilio i gerddoriaeth y byd ac yn dysgu am termau ac offerynnau cerddorol er mwyn creu naws arbennig. Maent wedi archwilio curiad, tempo, a "chyffro’r corff" (defnyddio eu cyrff fel offerynnau). Yr her nesaf yw paratoi i gyfansoddi ein cerddoriaeth arbennig ein hunain am Gymru drwy greu sgôr graffega dewis offerynnau, dynameg a tempo penodol ar gyfer seiniau arbennig .

Diogelwch, Hanes a Chreadigrwydd 

Pweru Ein Gwybodaeth
Yn ddiweddar cawsom y pleser o groesawu Rob a Michelle o RWE Dolgarrog i’r ysgol. Daethant i gyflwyno gwybodaeth ddiddorol am yr Orsaf Ynni Dŵr leol, gan ddysgu’r plant sut mae dŵr yn cael ei droi’n egni glân, adnewyddadwy.

Cadw’n Ddiogel Ger y Dŵr
Ochr yn ochr â dysgu am wyddoniaeth yr ynni, rhannodd y tîm neges diogelwch hollol hanfodol. Tynnwyd sylw at beryglon cudd y ceunant sydd yn llifo wrth ochr Gerddi Coffa Trychineb Dolgarrog.

  • Y Brif Neges: Cadwch draw o ochr y dŵr bob amser.
  • Y Wers: Parchwch y llif, yn enwedig pan mae lefel y dŵr yn uchel.

Cic a gôl! UEFA o dan 19 oed!
Cafodd plant Dosbarth Melynllyn, Dosbarth Geirionydd a Dosbarth Dulyn gyfle gwych i glywed cyflwyniad arbennig gan gynrychi9olwyr o am Bencampwriaeth UEFA o dan 19. Bydd y gystadleuaeth fawr hon yn cymryd lle ar draws Gogledd Cymru yn ystod y misoedd nesaf! Yn ystod y sesiwn, dysgodd y disgyblion am y gystadleuaeth a chawsant gyfle cyffrous i weld y cwpan a dychmygu eu bod wedi ei ennil. 


Pob Eitem Newyddion