Newyddion Mawrth

Hafan > Newyddion > Newyddion Mawrth


Braf oedd cael dychwelyd yn ôl i’r ysgol a gweld arwyddion o’r Gwanawyn yn nesau. Yr ydym wedi bod yn brysur dros ben yn gorffen ein gardd ar y cae yn barod at weld popeth yn tyfu ac yn newid dros yr wythnosau i ddod. Bu i blant o Ddosbarth Melynllyn yn gweithio’n galed iawn yn gosod ein Twnel Helyg newydd ac mae nhw wrthi yn ddyddiol yn ei ddyfrio efo dŵr. Bu i Dosbarth Dulyn hefyd helpu drwy chwalu rhisgl ar y gwair o dan y rhisgl fel nad yw’n llithrig pan mae’r plant yn rhedeg drwyddo yn yr haf.

  • twnel helyg

Mae ein pwll dŵr hefyd wedi gweld bywyd newydd ac yr ydym yn edrych ymlaen at weld grifft llyffant sydd ynddo yn troi i mewn i penbyliaid.

Mae plant Dosbarth Melynllyn a Dosbarth Crafnant wedi bod allan yn barod yn arsylwi ac yn darlunio y blodau sydd yn dechrau tyfu ac hefyd beth sydd yn byw yn ein pwll dŵr.

  • myfyrwyr yn edrych i mewn i bwll yr ysgol

Mae hin’n gyfnod yr Eisteddfodau ac mae rhai o’r plant wedi bod yn brysur iawn yn cystadlu yn yr Urdd. Llongyfarchiadau i barti canu’r Dyffryn ac i Efa a Maddie am eu llwyddiant a diolch i’r holl blant a gystadlodd. Cawsom Eisteddfod yn yr ysgol hefyd a cafodd pob dosbarth gyfle i berfformio ac i wisgo mewn gwisg traddodiadol neu liwiau Cymru. cafwyd pnawn arbennig yn gwylio a clywed y plant.

  • plant ar lwyfan yr eisteddfod
  • plant yn ei dillad coch cymreig

Roedd y plant yn awyddus i gael anifeiliaid anwes yn yr ysgol felly cynhaliwyd diwrnod di wisg ysgol er mwyn codi pres. Llywddom i godi dros £170 ac erbyn hyn mae gennym danc pysgod a chwech o bysgpd oren llachar yn mwynhau eu cartref newydd. Bydd y plant yn cymryd tro i olchi’r tanc ac i edrych ar eu holau.

  • pysgod mewn tanc yn yr ysgol

Buom yn dathlu Diwrnod y Llyfr yma a daeth y plant i’r ysgol fel cymeriadau allan o lyfrau a buont yn cwblhau gweithgareddau amrywiol yn ymwneud a’u hoff lyfrau yn ystod y dydd.

Cafodd rhai plant hefyd gyfle i wenud crempogau a’u bwyta ar ôl darganfod sut i wneud hynny drwy paratoi rysait a dull ar gyfer eu coginio.

Yn ogystal a’r holl weithgareddau ychwanegol y mae’r plant wedi bod yn brysur yn dysgu drwy eu themau a bu i Ddosbarth Crafnant arbrofi ar sut i gael gwrthrychau i hedfan a bu Dosbarth Geirionydd yn ymchwilio i pa ddefnydd oedd orau ar gyfer parasiwt drwy eu hedfan o lawr ucha’r ysgol i lawr at y mae parcio. Roedd amryw o’r wyau yn y parasiwt dal mewn un darn ar ôl glanio!

  • plant yn gafael yn ei parasiwt

Y mae’r plant yn Nosbarth Eigiau wedi bod yn helpu o gwmpas yr ysgol drwy gasglu sbwriel a chawsant fosged blasus ar ol eu holl gwaith caled. Y maent hefyd wedi bod yn datblygu eu geirfa Cymraeg yn y gornel darganfod drwy enwi a chysylltu deunyddiau naturiol o’r llyfr ‘Dwi’n Mynd i Hela Arth.

  • lluniau o plant yn codi sbwriel

Pob Eitem Newyddion