Newyddion Mawrth

Hafan > Newyddion > Newyddion Mawrth


Mae mis Mawrth wedi bod yn fis eithriadol o brysur i ni yma yn Nyffryn yr Enfys, gyda digon o ddysgu, chwaraeon, a llwyddiannau diwylliannol!

Arwyddion y Gwanwyn a ‘Chabin y Carneddau

Rydym wedi bod yn mwynhau natur y tymor hwn! Bu Dosbarth Crafnant ar helfa Arwyddion y Gwanwyn ar y cae, gan fwynhau gweld y blodau cyntaf yn blodeuo. I fynd â’r dysgu ymhellach, mae’r plant wedi bod yn brysur yn plannu hadau er mwyn gweld sut mae pethau’n newid ac yn tyfu dros amser. 🌱🌸

Cafodd y plant Derbyn eu hymmweliad cyntaf eleni â ‘Chabin y Carneddau’. Buom yn hel atgofion am ein hamser ar y cae yn chwilio am arwyddion y gwanwyn, gan ddefnyddio ein synhwyrau i gyd. Trafodwyd ansoddeiriau disgrifio a buom yn cydweithio i greu cerdd hyfryd.

CPBC a Sammy’r Wylan

Cawsom fore arbennig iawn yng nghwmni Connor, Chelsea a Sammy’r Wylan o Glwb Pêl-droed Bae Colwyn. Cawsom gyflwyniad gwerthfawr ganddynt ar bwysigrwydd cadw’n iach ac yn heini. Roedd y plant yn wych am ateb cwestiynau am iechyd a lles, ac wrth eu bodd yn cyfarfod Sammy!

Nodyn: Mae’r clwb wastad yn chwilio am chwaraewyr a chefnogwyr newydd – gellir cael manylion cyswllt ar eu tudalen Facebook.

Dosbarth Geirionydd: Prysurdeb yn y Gymuned

Mae Dosbarth Geirionydd wedi bod yn ddyfal iawn y mis hwn ar draws sawl prosiect:

  • Beicio Mynydd: Mae eu sgiliau yn gwella bob wythnos diolch i Ed ac Al o PEDAL-MTB. Cafwyd sesiwn fuddiol iawn lle bu pawb yn herio eu hunain ac yn ymarfer sgiliau newydd. 
  • Trash Free Trail: Bu’r dosbarth yn gweithio’n galed yn hel sbwriel. Fe wnaethon ni rannu yn ddau grŵp; un yn tacluso’r trac beic a’r podiau glampio, a’r llall yn mynd o amgylch gardd y Cog, parc Dolgarrog a Ffordd Gwydyr. Casglon ni bag ddu gyfan! Da iawn i bawb am helpu’r amgylchedd lleol. 
  • Cynllunio Mynwent: Buont hefyd yn dylunio estyniad i fynwent Trefriw. Daeth Jasmine a Kim (Cyngor Trefriw) a Ned (Prif Arddwr Gerddi Bodnant) draw i drafod y cynlluniau, ac fe fyddant yn defnyddio syniadau creadigol y plant yn y gwaith go iawn! 

Byd y Llyfrau a Chreaduriaid James

Dathlwyd Diwrnod y Llyfr 2026 mewn steil gyda gwisgoedd ffantastig. Bu Dosbarth Geirionydd yn ditectifs emojis wrth ddyfalu enwau llyfrau, tra bod Dosbarth Dulynwedi bod yn darllen James a’r Eirinen Anferth. Fel rhan o’u gwaith, buont yn creu trychfilod y stori allan o glai—gan fesur y coesau, y cyrff a’r antennau’n fanwl gywir!

Dathlu Cyhydnos y Gwanwyn gyda Dosbarth Dulyna Geirionydd!

Cafodd disgyblion Dosbarth Dulyn a Dosbarth Geirionydd  fore bendigedig wrth i ni ddathlu dyfodiad y Gwanwyn!

Er mwyn nodi’r Gyhydnos, aeth y dosbarth am dro o amgylch yr ardal leol i chwilio am arwyddion bod byd natur yn deffro. Roedd yn gyfle gwych i ddefnyddio ein synhwyrau wrth i ni wrando am drydar yr adar ac edrych am y lliwiau cyntaf yn y gwigoedd a’r gerddi.

O’r eirlysiau gwynion i’r blagur ar y coed, roedd digon i’w weld! Rydym mor falch o gael croesawu’r tymor newydd yma gyda’n gilydd.

Dosbarth Melynllyn: Hwyl a Ffracsiynau!

Cafwyd prynhawn melys iawn yn Nhosbarth Melynllyn wrth i’r plant ddysgu am ffracsiynau mewn ffordd ymarferol iawn! Buont yn ymarfer eu sgiliau rhifedd drwy rannu bariau o siocled yn ddognau cyfartal. Roedd hi’n her fawr i sicrhau bod pawb yn cael cyfran deg, ond fe lwyddon nhw i rannu’n ofalus – a do, fe gafodd pawb ddarn blasus i’w fwynhau ar y diwedd!

Datblygu Sgiliau yn yr Ardaloedd Dysgu

Mae disgyblion Dosbarth Melynllyn wedi bod yn ferw o weithgaredd y mis hwn, gan ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd, creadigol a’u cymhwysedd digidol ar draws yr ardaloedd dosbarth. O greu straeon dychmygol i ddefnyddio apiau addysgol, mae’n wych gweld yr annibyniaeth a’r awydd i ddysgu sydd gan y plant.

Arbrofi gyda Chynhwysedd

Fel rhan o’u gweithgareddau Rhifedd, bu Dosbarth Melynllyn yn canolbwyntio ar gynhwysedd. Cafodd y plant gyfle i ddidoli, mesur, cymharu a threfnu gwahanol gynwysyddion wrth drafod ac arbrofi. Mae’r gwaith ymarferol hwn wedi bod yn ffordd wych o feistroli mesur cyfaint wrth gael tipyn o hwyl gyda dŵr a deunyddiau eraill!

  • Plentyn yn gafael mewn bar o siocled
  • Plant yn cal hwyl yn cymrhyd rhan mewn gweithgareddau rhifedd

Llwyddiant yn yr Eisteddfod

Llongyfarchiadau mawr i bawb a gynrychiolodd yr ysgol yn Eisteddfod yr Urdd ddydd Sadwrn. Daeth y Parti Canu yn ail, a chafwyd perfformiadau gwych gan Steffan (canu), Clara, Ellie a Lleucu(adrodd). Llongyfarchiadau arbennig i Olivia am gipio’r drydedd wobr!

Diolch i’r rhieni am y gefnogaeth, i Mrs Lackenby am gyfeilio, ac i Miss Griffiths am hyfforddi.

  • Plentyn yn canu anthem genedlaethol Cymru yn yr eisteddfod

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi

I gloi’r mis, cawsom hwyl wrth ddathlu ein nawddsant yn ein Eisteddfod Ysgol gyda digon o ganu, adrodd a gweithgareddau diddorol yn yr ardaloedd dysgu.


Pob Eitem Newyddion