Newyddion Medi

Hafan > Newyddion > Newyddion Medi


Braf oedd cael croesawu’r plant yn ôl i’r ysgol ar ôl y gwyliau. Roedd yn braf hefyd cael croesawu’r plant Meithrin i’r ysgol am y tro cyntaf. Maent wedi ymgartrefu’n dda yn barod ac yn mwynhau dysgu yng nghwmni eu ffrindiau newydd.

Mae gweddill y plant wedi setlo’n dda yn eu dosbarthiadau newydd hefyd. Mae Dosbarth Crafnant wedi bod yn brysur yn cynllunio gweithgareddau i gyd fynd a’u thema Dau Gi Bach – byddent yn cwblhau amrywiaeth o dasgau tu mewn a thu allan sy’n ymwenud gyda’r thema ac yn dechrau eu Sesiynau Ysgol Goedwig yn fuan. Maent wedi bod yn argraffu efo bisgedi cŵn ac yn ail adrodd y stori yn yr ardal byd bach. Yr ydym yn edrych ymlaen at eu gweld yn datblygu eu dysgu yn ystod yr wythnosau nesaf.

Yn nosbarth Melynllyn maent wedi bod yn rhannu syniadau am Arwyr Cymru ac wedi dechrau dysgu am Gelert a bywyd yn y canol oseoedd. Maent wedi bod yn adeiladu cestyll unigryw yn yr ardal creu ac yn gwrando a gwerthuso cerddoriaeth y canol oesoedd. Maent wedi bod yn defnyddio eu gwybodaeth o rifau i drefnu dyddiadaua defnyddio mathemateg yn drawscwricwlaidd. Fel rhan o’u dysgu maent wedi bod yn awyddus i ddysgu am cellweiwyyr felly yn gobeithio byddent hefyd yn cael cyfle i adloni eu ffrindiau!

Mae y plant yn Nosabrth Dulyn a Geirionydd wedi bod yn holi cwestiynau am Gymru er mwyn datblygu’r dysgu. Bu i Ddosbarth Geirionydd ddringo’r Wyddfa fel sbardun i’w thema a bu canmolaieth mawr iddynt am gyrraedd y copa ac am wynebu’r her. Daeth Arwel Roberts o Gyngor Tref Llanrwst i’r ysgol i rannu gwybodaeth am Dafydd Ap Siencyn. Cafodd rhai o’r plant gyfle i wisgo i fyny fel rhywun o’r cyfnod yna. Bu i dwy ddisgybl – Lleucu a Lucie yn llwyddiannus a chipio’r wobr 1af ac 2il yn y gystadlaeuath dylunio poster am Llanrwst.

Y mae’r plant wedi bod yn gwrando ar fesriynau o Hen Wlad fy Nhadau ac yn dewid eu ffefryn.Fel rhan o’r mae dsygu maent am berfformio fersiwn eu hunain ac am ddylunio poster unigryw fel anrheg i rywun o’u dewis. Roedd yn ddiwrod Owain Glyndwr hefyd yng nghanol y mis felly yn gyfle da i’r plant ddysgu am un o dywysogion Cymru.

Y mae Joe o Chance to Shine wedi bod yn cynnal sesiynau criced wythnosol efo plant o Fl2- Fl6 hefyd,  a braf yw clywed y plant yn cymeryd rhan mewn sesiynau yn llawn egni a brwdfrydedd. Edrychwn ymlaen unwaith eto at flwyddyn prysur a llwyddiannus.

 


Pob Eitem Newyddion