Newyddion Medi

Hafan > Newyddion > Newyddion Medi


Am ddechrau gwych a phrysur i’r tymor ysgol newydd! Mae’r plant wedi ymgartrefu’n hyfryd ac eisoes wedi bod yn mwynhau gymaint o brofiadau dysgu cyffrous. Dyma gipolwg ar popeth ‘rydym wedi bod yn ei wneud ym mis Medi.

Ymweliad Arbennig: Tŷ Gobaith

Roedd yn bleser mawr gennym groesawu Becky o Dŷ Gobaith i’r ysgol. Cafodd y plant gyfle i glywed am y gwaith ffantastig ac anhygoel y mae’r Hosbis yn ei wneud, ynghyd â thrafod sut y gallwn ni gyd helpu i gefnogi eu cenhadaeth. Diolch yn fawr, Becky!

  • dynes yn rhoi cyflwyniad

Dosbarth Eigiau

Braf oedd cael croesawu ein disgyblion Meithrin newydd sbon i Ddosbarth Eigiau. Maent wedi bod yn brysur yn arbrofi yn yr ardlaoedd, yn gwneud ffrindiau newydd  ac yn dechrau ymgatrtefu’n dda yn eu hysgol newydd.

  • Dau fyfyriwr yn eistedd ac yn chwarae yn y gegin chwarae.

Dosbarth Crafnant

Mae ein fforwyr ifanc wedi bod yn plymio’n ddwfn i fyd y Deinosoriaid!

  • Ymchwil Wyddonol: Bu’r plant yn ymchwilio i ffrithiant er mwyn darganfod pa ffordd sydd orau i ddeinosor fynd i lawr mynydd—gan brofi a yw ochr rhewllyd ynteu ochr garw sy’n gweithio orau!
  • Sgiliau Digidol: Maent hefyd wedi bod yn datblygu eu sgiliau digidol drwy ddefnyddio JIT5 i ddylunio a thynnu lluniau o’r deinosoriaid eu hunain.
  • Myfyrwyr yn gwneud ffilm am ddeinosor ar iPad

Dosbarth Melynllyn

Mae deinosoriaid yn thema fawr yma hefyd! Mae’r plant wedi bod yn eithriadol o brysur yn archwilio eu hardaloedd dysgu amrywiol:

  • Her Lego: Rhoi creadigrwydd ar brawf i weld beth yn union y gellir ei greu o un fwced lawn o Lego.
  • Aled Afal: Rhannu straeon am brofiadau’r penwythnos a sgwrsio rhwng Aled Afal a Mr Dino!
  • Sgiliau Iaith: Ymarfer sgiliau darllen ac ysgrifennu brawddegau syml gan ddefnyddio gwybodaeth am ddeinosoriaid. Mae rhai ohonynt hefyd wedi creu deinosoriaid creadigol allan o siapiau 2D neu basta!
  • Rhifedd: Atgyfnerthu sgiliau cyfrif drwy greu Deinosoriaid Numicon a darganfod eu gwerth mathemategol.

Dosbarth Dulyn a Dosbarth Geirionydd

Cerddoriaeth Fyw Rhyngweithiol: 'Gwnewch Sŵn!'

Cafodd y plant fwynhau perfformiad byw gwych yn rithiol gan griw Gwnewch Sŵn! Rydym yn gobeithio y bydd y band yn ysbrydoli’r plant i roi cynnig ar wersi cerddorol yma yn yr ysgol. Cerwch amdani blantos!

Dysgu Tu Allan: 'Gwneud Traciau' (Blwyddyn 3 a 4)

Daeth Sue o brosiect Gwneud Traciau Dolgarrog i weithio gyda grŵp o blant Dosbarth Dulyn. Cawsant amser hyfryd yn yr awyr agored yn casglu dail, eu didoli, a dysgu eu henwau cyn creu coronau dail hardd.

Celf a Thaith Gymunedol

Dros yr wythnosau nesaf, tasg gweithgaredd Celf Dosbarth Dulyn fydd creu cerfluniau o’u harwyr. Er mwyn canfod ysbrydoliaeth, aethant am dro o amgylch Nolgarrog i chwilio am gerfluniau â nodweddion lleol.

Dathlu Diwrnod Owain Glyndŵr

Mae plant Dosbarth Geirionydd wedi bod yn dathlu Diwrnod Owain Glyndŵr drwy ddysgu am hanes yr arwr cenedlaethol hwn ac arddangos ei faner yn falch yn y dosbarth.

Blwyddyn 5

Tra roedd plant Blwyddyn 6 i ffwrdd am y diwrnod yn Ysgol Dyffryn Conwy, bu Blwyddyn 5 yn brysur iawn yng  ngardd yr  ysgol! Roedden nhw wrthi’n casglu, cyfrif, a phwyso afalau ffres o goedafalau’r ysgol. Mae’r afalau wedi cael eu rhoi i Anti Helen y gogyddes, ac mae pawb yn edrych ymlaen yn eiddgar at gael tarten neu deisen afalau flasus iawn ganddi!

  • students with a boxs filled with apples

Blwyddyn 6

Cafodd ein disgyblion hynaf ddiwrnod prysur a chyffrous iawn yn ymweld ag Ysgol Dyffryn Conwy fel rhan o’u gwaith pontio! Cawsant flas gwych ar fywyd ysgol uwchradd. Diolch yn fawr i Miss Roberts am eu goruchwylio, a llongyfarchiadau mawr i’r plant am eu hymddygiad gwych drwy gydol y diwrnod!

  • grŵp o fyfyrwyr mewn neuadd chwaraeon

Cyngor Ysgol

Rydym yn falch iawn o gyflwyno ein Cyngor Ysgol newydd ar gyfer 2026/27! Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld eu syniadau gwych yn datblygu ac yn llywio bywyd yr ysgol yn ystod y flwyddyn nesaf.

Llongyfarchiadau mawr i’n haelodau newydd:

  • Llion, James, Tilly, Olivia, Benji, Maelon, Aaliyah, Cari, Seb, Rocco, a Flo.

Pob Eitem Newyddion