Newyddion Mehefin
Hafan > Newyddion > Newyddion Mehefin
Llwyddiant Chwaraeon a Dysgu Egnïol
Mae ein disgyblion wedi bod yn manteisio ar y tywydd i ddatblygu sgiliau newydd a chynrychioli’r ysgol yn y gymuned.
- Pencampwyr Criced: Llongyfarchiadau mawr i'r 8 disgybl a gynrychiolodd yr ysgol yn Nhwrnament Criced Dyffryn Conwy. Chwaraeodd y tîm yn wych a dod yn AIL! π₯ Gwych blantos! π
- Llongyfarchiadau mawr i'r plant a aeth I Bro Gwydir i gynrychioli'r ysgol yn wych yn y Mabolgampau Dalgylch!π Ardderchog!
- Cafodd Dosbarth Geirionydd ddiwrnod braf hefyd draw ym Mhorth Eirias yn dysgu sgiliau bywyd pwysig yn ogystal â mwynhau yn y môr!π¦ππβοΈ
- Hwyl yn yr Haul: Mae disgyblion ar draws yr ysgol hefyd wedi mwynhau’r haul wrth ddatblygu eu sgiliau criced cyffredinol.
- Sesiynau Rygbi: Diolch i Anna o Glwb Rygbi Nant Conwy am gynnal sesiynau rygbi hwyliog tu hwnt efo Dosabrth Geirionydd dros yr wythnosau diwethaf. π Roedd pawb wedi mwynhau yn arw ac yn siomedig mai hwn oedd ein sesiwn olaf.
- Nodyn i Rieni: Cofiwch fod rygbi yn ail-ddechrau yn Nant Conwy ym mis Medi - cerwch amdani!
Sgiliau Bywyd a Hwyl Awyr Agored
Mae dysgu yn ein hysgol yn mynd ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Y mis hwn, mae ein disgyblion wedi bod yn brysur yn ymarfer amrywiaeth o sgiliau ymarferol.
- Llwyddiant Kerbcraft: Da iawn i’r plant o Fl 1 am gwblhau y sesiynau diogelwch ffyrdd Kerbcraft yn llwyddiannus! π₯π
- Garddwyr Ifanc: Cawsom brynhawn prysur iawn dar y cae. Bu gwaith tîm arbennig gan Dosbarth Geirionydd wrth chwynnu, codi'r letys, a symud y compost. πͺπͺ΄
- Anturiaethau Pobi: Mae ein disgyblion iau o Ddosbarth Crafnant wedi bod yn brysur yn pobi, ac rydym yn gobeithio na fydd y Bachgen Bach Toes yma yn rhedeg i ffwrdd! π
- Yn ogystal, cafodd Dosbarth Dulyn fore gwych mewn gweithdy drymio!π₯
Dod â Hanes yn Fyw
Aeth ein disgyblion o Ddosbarthiadau Dulyn a Geirionydd gam yn ôl i’r Oesoedd Tywyll.
Daeth Rosie o Story Rangers i adrodd hanes lleol Y Garrog. Cafodd y plant gyfle i fod yn rhan o’r stori drwy ryngweithio a chydweithio, gan ddysgu am fywyd yn ystod yr Oesoedd Tywyll.
Mae tapestri mawr wrthi yn cael ei greu yn adrodd y stori gan gymuned Eglwysbach, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld y fersiwn gorffenedig.
Ffocws yn y Dosbarth
Ochr yn ochr â’r holl weithgareddau awyr agored, mae disgyblion Dosabrth Melynllyn wedi bod yn canolbwyntio yn y dosbarth, gan atgyfnerthu eu medrau llythrennedd a rhifedd craidd. βββ











