Newyddion Mis Gorffennaf
Hafan > Newyddion > Newyddion Mis Gorffennaf
Dyma ni ar ddiwedd tymor a blwyddyn ysgol prysur iawn. Mae yr ysgol wedi bod yn llawn cyffro a bwrlwm ac amryw o weithgareddau yn cymeryd lle.
Cafodd Dosbarth Dulyn a Geirionydd cyfle i gynorthwyo Cymdeithas Eryri i gael gwared o blanhigyn Jac y Neidiwr a oedd yn tyfu ar dir Zip World yn Nolgarrog. Rhaidcanmol y plant am waith tim arbennig ac agwedd mor frwdfrydig tuag at helpu ein byd naturiol. Cawsant gyfle hefyd i ddylunio posteri a bu i Ben, Poppy a Lewis lwyddo i ennill gowbr am eu posteri nhw. Yn ffodus i ni cawsom dywydd sych hefyd.
Y mae Dosbarth Geirionydd hefyd wedi bod yn brysur yn creu posteri ar gyfer Achub y Morloi. Bu Lois Bl5 yn llwyddiannus ac enillodd wobr am ei dyluniad. Llongyfarchiadau Lois!
Cynhaliwyd Sioe Dalentau yma ar ddechrau’r mis ac roedd yn hyfryd gweld holl dalentau ein plant. Gwelwyd dawnsio, canu , gymnasteg, sgiliau bocsio a pêl droed, perfformiadau offerynnol, gwaith celf ac dyluniadau lego. Mae gennym blant talentog iawn yn yr ysgol.
Roedd yn bleser cael cynnal ein diwrnod Mabolgamau hefyd ar ddiwrnod sych a tystio’r holl blant yn cymeryd rhan ac yn trio eu gorau glas. Chwarae teg i’r staff â’r rhieni/gofalwyr hefyd am gystadlu o flaen pawb.
Yn ystod ein wythnos olaf cawsom llawer o weithgareddau hwyl a diddorol. Cafodd Dosbarth Geirionydd Brwydr Ddŵr Mawreddog! Nid yn unig y plant cafodd eu gwlychu....!!!
Roedd hi’n gyfle hefyd i ffawrwelio i Bl 6 a cafwyd gwasanaeth ffarwelio ardderchog efo canu, areithiau, dawnsio a fidio. Roedd yn fendigedig gweld yr holl rieni a gofalwyr yn ein cefnogi ac i weld ein plant Bl6 yn siarad a perfformio yn hyderus o flaen pawb.
Yn dilyn hynny cawsant gyfle i gwblhau y Crws Ninja yn Zipworld a bwyd yn yr Hilton i ddilyn. Plant hapus a bodlon iawn.
I orffen ein dathliadau ar gyfer ein wythnos olaf roedd disgo a picnic ar y cae. A dyna ni ddiwedd y flwyddyn a chyfle i bawb ymlacio a mwynhau ychydig o wythnosau i ffwrdd tan mis Medi!