Newyddion Mis Ionawr
Hafan > Newyddion > Newyddion Mis Ionawr
Dosbarth Eigiau
Y mae dosbarth Eigiau wedi bod yn darllen llyfr ‘Rydyn ni’n mynd i hela arth!’ ac aethant i chwilio am yr arth un bore yn y goedwig a defnyddio yr ysbienddrychau yr oeddynt wedi eu creu i ddod o hyd iddo. Y maent hefyd wedi bod yn dysgu am y gwhanol mathau o anifeiliaid sydd yn byw yn y goedwig. Yn ffodus i ni cawsom eira a rhew yn ystod Ionawr ac roedd yn gyfle gwych i’r plant ddysgu am erira a rhew. Nesaf byddent yn dysgu am fwd a bydd digon o gylfeodd iddynt chwarae yn y mwd ac yn ein cegin mwd a gwneud llanast.
Dosbarth Crafnant
Hwiangerddi yw eu thema a chawsant gyfle i ddewis eu ffefrynau yn ystod yr hanner tymor cyntaf maent wedi bod yn dysgu ‘Fuoch chi ‘rioed ym morio?’. Maent wedi bod yn darganfod lle mae Ynys Manaw drwy chwilio ar Google Earth ac wedi darganfod llawer o ffeithiau am yr ynys. Y maent wedi bod yn greadigol iawn yn creu peintiadau o’r ynys ac hefyd cawsant hwyl wrth greu cardiau Santes Dwynwen. Braf oedd gweld eu dyluniadau unigryw. Cawsant hwythau gyfle i fynd allan i chwarae yn yr eira ac yr oeddynt yn falch iawn o gael dod i mewn i gynhesrwydd yr ysgol. Y mae ein plant yn Bl 1 wedi bod yn derbyn sesiynau Kerbcraft hefyd felly byddent yn gallu cadw’n ddiogel o hyn ymlaen wrth groesi’r ffordd.
Dosbarth Melynllyn
Y mae’r plant wedi bod yn brysur yn paratoi gwaith celf ar gyfer Eisteddfod Melin y Coed. Y thema yw Y Ddraig Goch ac mae pob un mae’r plant wedi ei greu yn unigryw. Cafodd dosbarth Melynllyn gyfle hefyd i fwynhau yr eira am y cyfnod byr yr oedd yma. Y maent hwythau wedi bod yn dewis eu hoff hwiangerddi ac wedi dewis ‘Mi welais Jac y Do’ fel eu thema am yr hanner tymor yma. Amseru perffaith hefyd i ddysgu am yr adar sydd yn ymweld a gardd yr ysgol a cymeryd rhan yn ymgyrch gwylio adar yr RSPB. Maent wedi bod yn creu bwyd i’r adar gan obeithio y cawn weld amrywieth o ymwelwyr pluog o gwmpas yr ysgol ac wei bod yn dylunio tai adar ar eu cyfer. Gofynnodd y plant - Sut ydym yn gweld ? (Mi welais Jac y Do) ac o ganlyniad i hynny maent wedi bod yn dysgu am Braille ac yn creu eu enwau mewn Braill mewn clai.
Dosbarth Dulyn a Geirionydd
Siocled yw eu them y tymor yma ac maent wedi bod yn gofyn llawer o gwestiynau er mwyn arwain y dysgu. Maent wedi bod yn ymchwilio i amrywiaeth o siocled a pa tymheredd mae yn toddi. Yn ogystal maent wedi derbyn gweithdy celf ac wedi bod yn dysgu am Quentin Blake a ceisio ail greu lluniau tebyg. Y maent wrth eu boddau yn darllen llyfr Charlie a’r Ffatri Siocled ac wedi cael cyfleodd i ddysgu o le daw siocled a dysgu y gair ‘siocled’ mewn ieithoedd eraill. Cafodd plant Bl5/6 gyfle gymeryd rhan mewn sesiynau peldroed a bydd rhai o’r plant yn cystadlu mewn Gwyl Peldroed cyn diwedd mis Chwefror. Daeth Jodie o elusen Maint Cymru i gynnal gweithdy hynod o ddiddorol am y coedwigoedd glaw ac yr oedd yn llawn canmoliaeth am wybodaeth ac ymddygiad y plant.