Newyddion Mis Mehefin

Hafan > Newyddion > Newyddion Mis Mehefin


Newyddion mis Mehefin

Mae’r amser yn carlamu heibio ac mae pawb yn Ysgol Dyffryn yr Enfys wedi bod yn brysur iawn!

Ysgol Goedwig

Y mae holl blant yr ysgol wedi cael cyfleodd i ddysgu am y bywyd gwyllt sydd o’u cwmpas ar safle’r ysgol efo Alys. Maent wedi bod yn plannu, creu cynefinoedd ar gyfer creaduriaid bach a byddent yn creu twnel helyg yn ystod yr wythnoasau i ddod. Yr ydym yn gobeithio datblygu y tir ymhellach dros yr wythnosau nesaf a datblygu proiect a fydd yn cynnwys dysgu am yr ystlumod sydd efo cartref arbennig yma ar y safle.

  • Plant yn rhedeg o gwmaps yn gwysgo adenydd glöyn byw

D Day

Bu i blant o Ddosbarthiadau Dulyn a Geirionydd fynd i lawr i’r Ardd Gofio yn Nolgarrog ar Fehefin y 6ed i gofio am y glaniadau a ddigwyddodd 80 mlynedd yn ôl. cawsant gyfle i siarad efo cyn milwyr a holi am eu medalau ac hefyd i ddysgu am bwysigrwydd y digwyddiadau yma o’r gorffennol.

  • Plant yn sefyll o flaen cofeb D Day

Ymweliadau

Mae pob dosbarth wedi cael cyfle i fynychu ymweliadau diwedd flwyddyn ac wedi bod yn ffodus iawn i gael tywydd sych ar y dyddiau yna. Aeth y plant ieuengaf i Gypsy Wood a cawsant ddiwrnod bendigedig a pawb wedi mwynhau. Aeth Dosbarth Crafnant a Melynllyn i Gelli Gyffwrdd am y diwrnod a chawsant gyfel i fwynhau yr holl gweithgareddau a chyfle hefyd i fod yn anturus. Aeth y plant hynaf i Crocky Trail ar ddiwrnod braf arall a chyfle i chwarae a chael hwyl efo’u ffrindiau ar ddiwedd blwyddyn ysgol prysur iawn.

Ras Merched – Taith Prydain

Roedd cyffro mawr yma ar brynhawn Dydd Iau, Mehefin 6ed. Cafodd y plant gyfle i wylio’r ras beics yn mynd heibio’r ysgol ac hefyd roeddynt wrth eu boddau yn cael gweld yr heddlu ar eu beics modur y stopio y tu allan i’r ysgol a chael gweld y goleuadau glas yn fflachio a clywed y seirenau.

Gweithgareddau eraill

Bu i Dosbarth Geirionydd gystadlu yn yr Ŵyl Griced yn Llanrwst. Roedd yn gyfel gwych iddynt ymarfer eu sgiiau anelu a dal ac hefyd i gystadlu yn erbyn ysgolion eraill. Y mae plant Dosbarth Melynllyn hefyd wedi bod yn ymarefr eu sgiliau rygbi unwaith eto efo Ifan Swyddog Rygbi Dyffryn Conwy. Mae hi’n dymor olaf i’n plant ym Ml6 ac yr oeddym yn falch iawn o weld eu hwdis ffarwel yn cyrraedd cyn diwedd y tymor ac eu bod yn cael cyfle i’w gwisgo. Cafodd Bl3 bore ‘difyr efo Alina o’r Ymddiriedolaeth Genadlaethol yn siarad am natur yr ardal leol a cafodd y plant gyfle i gofnodi’r wybodaeth mewn darn o waith celf ar ffurf baner.


Pob Eitem Newyddion