Newyddion Mis Tachwedd

Hafan > Newyddion > Newyddion Mis Tachwedd


Mae mis Tachwedd wedi bod yn gyfnod prysur unwaith eto. Amrywiaeth o ymwelwyr yn galw i’r ysgol a’r plant yn mynd ar deithiau hefyd.

Y mae Dosbarth Eigiau wedi bod yn dysgu stori Mr Brigddyn ac wedi bod allan yn chwilio am frigau ar gyfer eu ardal Byd Bach. Wrth grwydro y maent hefyd wedi bod yn datblygu eu sgiliau gwrando tu allan trwy wrando yn ofalus am synnau gwahanol.  Cawsom ychydig o eira a rhew yng nghanol y mis hefyd ac roedd yn gyfle gwych i’r plant ddysgu am tywydd oer a beth oedd yn digwydd i’r rhew wrth iddo gynhesu.

  • lluniau o plant tu allan

Mae Dosbarth Cranfant wedi cwblhau amrywiaeth o sesiynau Ysgol Goedwig efo Alys. Ar un diwrnod oer cawsant gyfle i olau tân tu allan a dysgu sut i gadw’n gynnes ac yn ddiogel ar yr un un amser. Cawsant gyfel i ddatblygu eu sgiliau creadigol hefyd drwy greu collage efo dail amryliw oedd wedi disgyn o’r coed. Y maent hwythau wedi bod yn datblygu eu sgiliau mesur trwy gymharu a mesur eu traed yn eu siop esgidiau dosbarth a trwy gymharu maint dail a mesur efo concyrs.

  • lluniau o plant yn defnyddio concers

Bu plant Dosbarth Melynllyn yn ymweld â Llanrwst i ddysgu am hanes LLywelyn ein Llyw Olaf a chawsant gyfle i ymweld â’r bont a dysgu am yr enwau gwahanol sydd arno, a bu i’r Maer - Mostyn Jones eu tywys o gwmpas. Roedd yn fore diddorol dros ben a dysgant amd Dafydd ap Siencyn, William Salisbury, Williams Morgan, cawsant gyfle i ymweld â Gylch yr Orsedd a swyddfa’r cyngor cyn mynd i wario ychydig o’u arain yn y siop fferins. Bu i’r plant hefyd fod yn brysur yn creu Guto Ffowc i roi ar y golecerth yn Nhal y Bont ar Noson Tân Gwyllt.

  • grwp o blant yn sefyll o flaen fflag

Y mae’r plant yn Nosbarth Dulyn wedi bod yn dysgu am Gymru ac wedi bod yn dysgu ffeithiau am y siroedd a’r brif ddinas Caerdydd. Y maent hefyd wedi bod yn gwerthuso fersiynau amrywiol o’r anthem genedlaetho – Hen Wlad Fy Nhadau. Yn dilyn hynny maent wedi bod yn cydweithio mewn grwpiau i berfformio ferswin eu hunain drwy ganu a defnyddio offerynnau. Ambell i ddisgybl yn rhannu talentau newydd efo ni sydd yn braf iawn i’w weld.

  • eisteddodd myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth gyda llun o’r senedd ar y wal

Bu i rhai o blant Dosbarth Geirionydd gystadlu mewn twrnament peldroed yn Llandudno a braf oedd clywed y trefnwyr yn canmol ymddygiad y plant. Byddwn yn derbyn cit chwaraeon newydd yn fuan ac edrychwn ymlaen at gael ei wisgo mewn cystadlaethau amrywiol. Daeth Cwmni Theatr Clwyd at y plant i berfformio a cynnal gweithdy ar wneud dewisiadau doeth ac i ddysgu mwy am y system cyfiawnder. Yn ogystal y mae Ifan, Swyddog Rygbi Dyffryn Conwy wedi bod yn cynnal sesiynau wythnosol efo’r plant ac maent wedi bod yn ymateb yn wych. Fel rhan o’r them ‘Cymru’ y mae’r plant wedi bod yn dysgu am wleidyddiaeth lleo a chenedlaethol a daeth Caryl Hughes yma o’r Senedd i rannu gwybodaeth am beth oedd pwrpas y senedd a’r math o waith oedd yn digwydd yno. Efallai bod gwleidyddion y dyfodol yn eu mysg!

  • plant yn eistedd ar lawr mewn cylch
  • plant yn eistedd mewn dosbarth dysgu am y seneedd

Pob Eitem Newyddion