Newyddion Rhagfyr
Hafan > Newyddion > Newyddion Rhagfyr
Mae pawb wedi bod yn brysur yn paratoi at ein Sioe Nadolig – Y Brigddyn. Llawer iawn o ymarfer canu a dysgu llinellau wedi bod yn mynd ymlaen yma a llwyddodd y plant i gynnal dau perfformiad llwyddiannus er i nifer ohonynt fod yn sal ac i ffwrdd o’r ysgol am ddyddiau. Llwyddom hefyd i godi dros £430 drwy werthu raffl ar ddiwrnod y sioe. Diolch i bawb am eu cefnofaeth ac i’r plant am eu ymrwymiad.
Y mae Dosbarth Geirionydd wedi bod yn astudio Cymru fel eu thema ac yn dilyn ymweliad aelodau’r senedd mis diwethaf daeth Y Cynghorydd Goronwy Edwards draw i rhannu gwybodaeth am y Cyngor a’i rol fel cynghorydd lleol.
Yr ydym wedi bod yn dathlu’r Nadolig yn dod drwy fwyta cinio Nadolig blasus. Diolch yn fawr i Anti Helen ac i Anti Cathy am ei baratoi. Roedd y plant yn edrych yn wych yn eu hetiau hefyd.
Yr ydym yn ddiolchgar iawn hefyd i gwmniau IDB Engineering, Orme View Llandudno, JMJ, Alwyn Jones Ltd a Cigydd TJ Parry Jones amd noddi ein crysau chwaraeon. Mae y plant yn edrych ymlaen yn fawr at cael cyfle i’w gwsigo mewn digwyddiadau chwaraeon yn y dyfodol.
Daeth ymwelydd arbennig i’r ysgol cyn diwedd y tymor a chafodd y plant gyfle i ddangos i ffwrdd eu doniau dawnsio yn ein disgo. Roedd Sion Corn wedi clywed bod plant yr ysgol yn haeddu canmoliaeth am eu perfformiad yn y sioe a daeth â rhywbeth bach i pob un ohonynt am eu hymdrechion.
Cafodd rhai o’r plant gyfle i greu addurniadau Nadolig allan o ddeunyddiau naturiol hefyd gyda Alys yn arwian y sesiynau. Yn ffodus roedd yn ddiwrnod sych felly roedd y plant yn gallu cwblhau y dasg yn yr awyr iâch.
I orffen y tymor bu i’r plant o’r Dosbarth Derbyn i Fl 6 i weld y panto Jac a’r Goeden Ffa yn Venue Cymru. Cyfle i fwynhau ar ddiwedd tymor prysur iawn.
Edrychwn ymlaen at gael seibiant dros Y Nadolig a chyfle i ymlacio cyn dychwelyd yn ôl yma ym mis Ionawr – tymoe newydd a blwyddyn newydd!